Tramffordd - Wicipedia

System cludiant sy'n defnyddio cledrau tebyg i gledrau rheilffordd sy'n galluogi cerbydau, yn enwedig cerbydau tram, i redeg arnynt yw tramffordd (hefyd llwybr tramiau, tramlein).

Tramffordd y Gogarth, Llandudno, gogledd Cymru

Datblygwyd tramffyrdd cyn y rheilffyrdd yn nyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol. Cafwyd rhai o'r enghreifftiau cynharaf yn y byd yng Nghymru, yn enwedig yn Ne Cymru wrth i'r diwydiant glo yn yr ardal dyfu. Roeddent yn cael eu defnyddio i gludo glo a defnyddiau eraill. Defnyddiwyd tramiau yn chwareli llechi gogledd Cymru hefyd, e.e. Tramffordd Rhiwbach, ger Blaenau Ffestiniog. Ceffylau, merlod neu ddynion oedd yn tynnu'r cerbydau ar y dechrau, ond cyflwynwyd injanau tram yn nes ymlaen.

Yn ddiweddarach, datblygwyd tramffyrdd yn y trefi a'r dinasoedd fel ffurf o gludiant cyhoeddus. Yn y dyddiau cynnar defnyddid ceffylau i dynnu'r cerbydau tram. Er i nifer o dramffyrdd trefol gael eu disodli gan rwydweithiau bysus mae sawl dinas yn y byd yn defnyddio rhwydweithiau tramffordd o hyd, e.e. San Francisco, Amsterdam a Tunis.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) Tram Travels (gwefan gan bobl sy'n ymddiddori mewn trams, gyda gwybodaeth am dramffyrdd o gwmpas y byd)